The Holyhead Breakwater Country Park is a magical place for the family, the walker or those just keen on some tranquillity to visit and share.


The park has stunning scenery, with a backdrop of soaring cliffs, the heather-clad Holyhead Mountain, and an amazing variety of birds and wildlife.


If you are visiting the park you can access Holyhead Mountain via the Anglesey Coastal Footpath that goes through the park. You can, of course, drive or walk right into the park or you can cycle to it - a new Green Links cycle track provides one of the routes into the park.


There is friendly staff on site to help out if you need assistance or guidance. With ample parking an information centre and Caffi’r Parc for refreshment and meals the Country Park is a place, once visited you will want to return.


There are so many things that you can do in the park you can walk, sit, eat, drink, relax and enjoy yourself. Even during the summer months there are many places within the park where you could feel that you have the place all to yourself enjoying the majesty of the mountain and its rugged coast or its more gentle grasslands.

A magical place to spend some time
Lle llawn lledrith i dreulio’r diwrnod

A magical place to spend some time
Lle llawn lledrith i dreulio’r diwrnod

Mae Parc Gwledig Morglawdd Caergybi  yn lle lledrithiol ar gyfer y teulu, y cerddwr, neu unrhyw un sydd am gael ennyd o lonydd wrth ymweld â fo.


Mae golygfeydd gwych o fewn y Parc, gyda chefndir o glogwyni serth, Mynydd Caergybi dan ei garped grug, ac amrywiaeth anhygoel o adar a bywyd gwyllt.


Wrth ymweld â’r Parc gallech gyrraedd Mynydd Caergybi drwy fynd ar hyd Llwybr Arfordir Môn sy’n dirwyn ei ffordd drwy’r parc. Wrth gwrs, gellwch yrru neu feicio i mewn i'r parc - mae trac beicio'r Lon Las yn un o'r ffyrdd y gallech gyrraedd arno.


Mae'r staff ar y safle'n gyfeillgar ac yn barod i gynnig unrhyw wybodaeth y gallech fod ei angen. Mae hefyd ddigonedd o le parcio, canolfan wybodaeth, a Chaffi’r Parc ar gyfer prydau bwyd neu ddiod. Felly, dyma le y byddech am ddychwelyd iddo unwaith y dowch i wybod amdano.


Mae digon o bethau i’w gwneud yn y parc – cerdded, eistedd, bwyta, yfed, ymlacio a mwynhau eich hunan. Hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf, mae yno nifer o fannau lle medrech deimlo mai chi yn unig sydd yno’n edrych ar y mynydd urddasol, yr arfordir creigiog, neu’r dolydd glaswelltog.