Agoriad Cyf
Anabledd Dysgu Cymru
DFN Project Search
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Elitesea
Learning Disability Wales

Agoriad, along with a consortium of five other organisations, has been awarded a £10m grant to boost the employment prospects of young people in Wales with a learning disability and/or learning difficulty, including autism.


The consortium, led by Learning Disability Wales, includes ELITE supported employment agency Ltd who will be the delivery partner in south and mid Wales, the international internship programme Project SEARCH, self-advocacy organisation All Wales People First, and Cardiff University. Agoriad is the delivery partner in north and mid Wales.


The five-year Engage to Change project, will work with 800 employers across Wales to help 1,000 young people with learning disability and/or autism to develop their employment skills through paid work placements lasting between 6-12 months.


The project is being funded by The Big Lottery Fund's Getting Ahead 2 grant. Developed in partnership with Welsh Government, this is the largest awarded ever given by the Big lottery fund in Wales.


Funded by money that has been dormant in bank and building society accounts across the UK for 15 years or more it aims meet priorities for supporting children and young people.


Youth unemployment in Wales is an issue for all young people but those young people with a learning disability and/or autism, the routes into employment and the support that is available isn't always clear. The project will allow us to draw from previous good practice and clearly demonstrate what works for these young people.


Validate that investing in person-centred, tailored training through Supported Employment programmes produces sustainable employment for individuals, establishing with employers the benefits of a diverse workforce and creates opportunities for future generations. Engage to Change aims to challenge the disadvantages young people with a learning disability/difficulty including Autistic Spectrum Disorder face in securing employment on their journey towards long term independence.


Agoriad will be delivering activities across:

  • Gwynedd
  • Isle of Anglesey
  • Conwy
  • Denbighshire
  • Flintshire
  • Wrexham
  • North Powys
  • North Ceredigion


The project aims to work with young people aged 16 to 25 years who want to work and are not currently in education, training or employment (NEET) or at risk of becoming NEET and have a learning disability, difficulty or autistic spectrum conditions.


Project activities will include:

  • Specific vocational assessment
  • Vocational advice, guidance/counselling
  • Supported employment visits
  • Vocational/independence training
  • Supported work placements
  • Supported interviews/work trials
  • Long term sustained employment
  • Supported volunteering
  • Post-placement support


The Project will also recruit, train and support a team of employer Champions, as well as participants and parents/carers as who will act as project Ambassadors.


Our aim is that the legacy and quality of the project will influence policy makers and make a positive difference for young people with learning disability / difficulty and / or Autism in Wales and across the UK, by prioritising activities to change government policy and practice.


More information


To find out more about Engage to Change, phone Robyn Williams on 01248 361392 or email e2c@agoriad.org.uk


Project Website www.engagetochange.org.uk


The Engage to Change project is delivered in partnership between Learning Disability Wales, Agoriad Cyf, All Wales People First, Cardiff University, Elite, and in collaboration with DFN Project Search. 



Cafodd Agoriad, ynghyd â chorsortiwm o bum sefydliad arall, grant o £10m i wella cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd ag anabledd neu anhawster dysgu, gan gynnwys awtistiaeth.


Anabledd Dysgu Cymru sy’n arwain y consortiwm; mae’r grŵp hefyd yn cynnwys ELITE Ltd, sef asiantaeth cymorth cyflogadwyedd, sy’n gweithredu fel partner fydd yn cyflwyno’r gwasanaeth yn ne a chanolbarth Cymru; hefyd, Project SEARCH - rhaglen swyddi preswyl rhyngwladol, Pobl yn Gyntaf Gymru Gyfan - sefydliad hunan-eiriolaeth, a Phrifysgol Caerdydd. Agoriad yw’r partner sy’n cyflwyno’r cynllun yng ngogledd a chanolbarth Cymru.


Dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y prosiect Ymroi i Newid yn gweithio gydag 800 o gyflogwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn helpu 1,000 o ieuenctid â chanddyn nhw anabledd dysgu neu/awtistiaeth. Y bwriad ydy datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy gyfrwng profiadau gwaith cyflogedig am gyfnodau o 6-12 mis.


Cafodd y prosiect ei ariannu drwy gyfrwng grant Getting Ahead 2 o Gronfa’r Loteri Fawr. Fe’i datblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Dyma’r grant mwyaf sydd wedi’i roi gan y Loteri Fawr yng Nghymru erioed.


Daw’r arian o goffrau banc neu gymdeithas adeiladu sydd wedi bod ynghwsg am bymtheg mlynedd neu fwy, a’r amcan ydy rhoi blaenoriaeth i brosiectau sy’n rhoi cefnogaeth i blant a phobl ieuanc.


Mae diweithdra ymysg pobl ieuanc yng Nghymru yn broblem gyffredinol, ond i ieuenctid sy’n dioddef o anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, mae’r llwybrau tuag at waith yn fwy anodd, a’r gefnogaeth sydd ar gael yn llai amlwg fyth. Bydd y prosiect hwn yn gallu manteisio ar gynlluniau sydd wedi llwyddo yn y gorffennol, ac yn dangos yn glir beth sy’n gweithio i’r bobl ifanc hyn.


Cafodd ei brofi fod buddsoddi mewn hyfforddiant sydd wedi’i deilwrio ar gyfer personau penodol drwy gyfrwng rhaglenni Cymorth Cyflogadwyedd yn creu swyddi cynaliadwy ar gyfer unigolion. Mae hefyd yn sefydlu’r egwyddor ymysg cyflogwyr fod manteision mewn cael gweithlu amrywiol, a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bwriad Ymroi i Newid ydy herio’r anfanteision sy’n wynebu pobl ifanc sydd ag anabledd neu anhawster dysgu gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth wrth iddynt chwilio am waith ar eu siwrnai tuag at fod yn annibynnol yn y tymor hir.


Bydd Agoriad yn gweithredu yn y mannau canlynol:

  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fflint
  • Wrecsam
  • Gogledd Powys
  • Gogledd Ceredigion


Bydd y prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc sydd rhwng 16 a 25 oed sy’n awyddus i weithio ond heb fod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET), neu sydd yn debygol o ddod i’r categori hwnnw, ac sydd hefyd yn ddioddef o anabledd neu anhawster dysgu neu gyflwr yn y maes awtistiaeth.


Rhai o weithgareddau’r prosiect fydd:

  • Asesiad penodol o ogwydd galwediaethol
  • Cyngor neu gyfarwyddyd gyrfa neu gwnsela
  • Ymweliadau Cymorth Cyflogadwyedd
  • Hyfforddiant gyrfa/annibyniaeth
  • Profiadau gwaith gyda chefnogaeth
  • Cyfweliadau/brofiad gwaith gyda chefnogaeth
  • Cyflogaeth tymor hir estynedig
  • Gwaith gwirfoddol gyda chefnogaeth
  • Cefnogaeth ar ôl lleoli


Bydd y Prosiect hefyd yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi tîm o gyflogwyr fydd yn Bencampwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n cymryd rhan, a rhieni neu ofalwyr, fydd yn gweithredu fel llysgenhadon y prosiect.


Yr amcan fydd sicrhau fod y gwaddol o’r prosiect, a’i ansawdd, yn cael dylanwad ar y sawl sy’n llunio polisïau’r dyfodol, gan wneud gwahaniaeth o ddifrif i bobl ifanc a chanddyn nhw anabledd neu anhawster dysgu a/neu awtistiaeth yng Nghymru ac ar draws Prydain. Gobeithiwn weld blaenoriaeth yn cael ei roi i weithgaredd fydd yn newid polisi llywodraeth a’i ymarfer.


Rhagor o wybodaeth


Er mwyn dysgu mwy am Ymroi i Newid, ffoniwch Robyn Williams ar 01248 361392 neu ebostio e2c@agoriad.org.uk


www.engagetochange.org.uk/?lang=cy


Gweithredir gan bartneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Phrifysgol Caerdydd, Elite, ac mewn cydweithredu â DFN Project Search.

Agoriad Cyf
Cardiff University
DFN Project Search
Cardiff University
Elitesea
All Wales People First