Click here to view our BEAUTIFUL ANGLESEY AND GWYNEDD publications
Helpu pobl 25 oed neu hŷn sydd â nam ar y synhwyrau i ddod o hyd i waith.

Your Business   |   Eich Busnes

Job Sense

Cliciwch yma i weld ein cyhoeddiad:
BEAUTIFUL ANGLESEY AND GWYNEDD
To make the concept of Social Enterprise work in our communities a number of organisations, individuals and businesses provide time, support and help to make things happen, our thanks to all.
Challenging the disadvantages young people with learning disabilities/difficulties face in securing employment.

​​​Mae ein gwasanaeth wedi’i deilwrio i’ch anghenion unigol chi.  Wrth inni ddod i’ch adnabod chi a’ch busnes, gallwn ddarparu’r ymgeiswyr cywir fydd wedi’u dethol i fod yn addas i anghenion eich cwmni.

Drwy gyfrwng yr ystod o gyrsiau hyfforddi a datblygu sydd gennym, bydd ein cleientiaid yn eich cyrraedd wedi’u paratoi’n drylwyr ac yn barod i weithio.

Drwy gael trafodaeth anffurfiol am eich anghenion recriwtio, gallwn eich helpu drwy gyfrwng proffiliau ac asesiadau ein cleientiaid i ddod o hyd i berson fyddai’n ateb gofynion y swydd.  Rydym yn darparu hyfforddwyr swyddi a gweithwyr cefnogol i helpu cleientiaid i deimlo’n gartrefol yn eu swydd o fewn eich busnes.

Gall Agoriad helpu dod o hyd i hyfforddiant ac mae’n darparu hyfforddiant a chyrsiau i bobl dan anfantais. Mae ein rhaglenni lleoli cleientiaid yn dod o hyd i offer all helpu gweithwyr anabl i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol a diogel. Mae Agoriad bob amser yn darparu help penodol ar gyfer ei gleientiaid, a chyngor pan fydd ei angen.

Gwasanaeth recriwtio a
​chefnogi cyflogaeth am ddim


Gallwn gynnig cronfa ddata o ymgeiswyr medrus sydd ar gael;  mynediad at weithlu lleol ymroddedig a theyrngar;  dilyniant o gefnogaeth gan hyfforddwyr swyddi proffesiynol, a chyngor ynglŷn â grantiau cyflogaeth a chefnogaeth.

Gall cleientiaid sy’n cael eu cefnogi fod yn gymwys ar gyfer derbyn cynhaliaeth ariannol.

Byddwn yn falch o glywed oddi wrthych. Rydyn ni’n barod i gynnig help heb ymyrryd ac mewn ffordd gyfeillgar, gan ymdrechu i sicrhau fod y trefniant yn un manteisiol i’r cyflogwr a’r cyflogedig. 
Dowch i gysylltiad i gael rhagor o wybodaeth.

Our service is tailored to your individual needs. By letting us get to know you and your business we can provide you with the right client candidates who will be specifically selected to suit your business requirements.


Through our range of training and development courses our clients will come to you fully equipped and ready to start work.


By having an informal discussion about your appropriate recruitment needs we can help by profiling/assessment of our clients to suit the job specification. We provide job coaches and support workers to help them integrate into employment in your business.

Agoriad helps to access and provides training and courses for disadvantaged people. As part of our client placement programmes we access equipment that can help disabled employees carry out their job duties more effectively and safely and we always provide sourcing of client specific help and advice wherever necessary.


Free recruitment and
employment support service


We offer a database of skilled available jobseekers; access to a committed, local work force; on-going support from professional job coaches and advice on employment grants and supports.

Financial Support can be available for supported employees.

We will be pleased to hear from you, you will find us helpful and non-invasive as we do our best to build the best advantage for both employers and employees. Contact us to find out more.​

Engage to Change

Help for people aged 25 or over, with a sensory loss to find employment.
Herio’r anfanteision sydd yn wynebu pobl ifanc gydag anableddau/anawsterau dysgu wrth iddyn nhw geisio am waith. 
Er mwyn sicrhau fod y syniad o Fentrau Cymdeithasol yn gweithio o fewn ein cymunedau, mae nifer o sefydliadau, unigolion a busnesau wedi rhoi o’u hamser, eu cefnogaeth a’u cymorth i wneud i bethau ddigwydd, ac mae’n diolch iddynt yn fawr iawn.