Mae pedwar o ddarparwyr blaenllaw gwasanaethau cyflogaeth ar gyfer unigolion ag anableddau wedi bod yn llwyddiannus mewn cais am arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i ymestyn gwasanaethau cymorth cyflogaeth i bobl a nam ar y synhwyrau yn ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (WWV). Bydd JobSense WWV yn helpu pobl dros 25 oed, sydd â cholled synhwyrau, i sicrhau cyfleoedd gwirfoddoli a /neu gyflogaeth.

Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu ymestyn y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud gan JobSense Dwyrain Cymru, trwy ddarparu cefnogaeth arbenigol i bobl â cholled synhwyraidd i’w galluogi i fynd i mewn i’r gweithle neu ailymuno ar weithle ledled Cymru.”
 

“Mae pandemig COVID 19 wedi dod â chyfnod o aflonyddwch a newidiadau i’r farchnad lafur gyda rhai o’r bobl a gafodd eu taro caletaf yw’r rhai sy’n dod i mewn i’r farchnad lafur am y tro cyntaf neu sydd â lefelau cymwysterau is a’r rhai sy’n wynebu anfantais neu rwystrau presennol y farchnad lafur i mewn cyflogaeth. Fel rhan o'n hymdrechion i roi hwb i adferiad economaidd cryf, rydym am helpu i greu swyddi newydd, yn enwedig yn niwydiannau'r dyfodol, darparu cefnogaeth eang i weithwyr mewn economi sy'n newid yn gyflym a dod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd y rhai yr effeithir arnynt fwyaf i wella eu cyflogadwyedd.”

 
“Bydd Strategaeth Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rhai mae’r pandemig wedi eu heffeithio fwyaf a’r rhai sy’n cael trafferthion wrth ddod i’r farchnad lafur.”

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol ELITE “Fel partneriaeth, rydym yn hynod falch o gael y cyllid gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru I ariannu Prosiect JobSense ar gyfer ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gefnogaeth gyflogaeth sydd ei hangen ar bobl â cholled synhwyrau i ddatblygu sgiliau cyflogaeth a mynd i mewn i fyd gwaith.”

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol ELITE: “Fel partneriaeth, rydym yn hynod falch o gael y cyllid gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru I ariannu Prosiect JobSense ar gyfer ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gefnogaeth gyflogaeth sydd ei hangen ar bobl â cholled synhwyrau i ddatblygu sgiliau cyflogaeth a mynd i mewn i fyd gwaith.”

Wrth ddylunio'r logo newydd, un o’n prif amcanion oedd ei hygrededd, felly gofynnwyd i nifer o bobl oedd a nam golwg a cholled synhwyrau am adborth. O ganlyniad, cytunwyd ar logo unlliw glas dwfn, gyda'r testun yn parhau i fod yn glir ac yn feiddgar. Rydym hefyd wedi creu sawl fersiwn unlliw a chyferbyniad uchel yn cynnwys gwyn, du a melyn.

“Gall fod yn anodd iawn cael cydbwysedd rhwng brandio a hygyrchedd. Mae eisiau i'ch logo ddal sylw’r cyhoedd yn ogystal ag adlewyrchu'ch sefydliad, mae angen cael ei weld hefyd. Mae'r glas mewn rhyw ffordd yn adlewyrchu'r partneriaid yn ogystal â'r sefydliad cyllido ac roeddem ni yma yn COS yn fwy na pharod i awgrymu hyn fel y dewis lliw gan ei fod yn liw sy’n orau yn weledol gan bobl sydd a nam ar eu golwg.

Mynediad yw'r allwedd i brosiect fel JobSense. Mynediad i'r farchnad lafur, mynediad at hyfforddiant, mynediad at gefnogaeth, mynediad at wybodaeth a phan fydd popeth yn ei le, rydych chi wir yn cael mynediad bywyd nad oedd ar gael ynghynt."


Sarah Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr COS

Gan fod 1 o bob 5 oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn fyddar neu wedi colli eu clyw, ac yn ei chael yn anodd cael cyflogaeth, ac mae dim ond 27% o bobl ddall neu rhannol ddall sydd mewn cyflogaeth, bydd  prosiect JobSense yn darparu cefnogaeth sydd ei angen yn fawr i alluogi'r rheini sydd â cholled synhwyrau i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli.

Prif nod y prosiect yw defnyddio cynghorwyr cyflogaeth arbenigol i gefnogi 232 o bobl sydd â cholled synhwyrau ac nad ydynt yn economaidd weithredol neu sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir.

Bydd ystod o gefnogaeth alwedigaethol cwbl berson ganolog yn cael ei ddarparu. Bydd gweithgareddau yn cynnwys:

• Cwblhau profiad gwaith, neu waith gwirfoddol
• Ennill cymhwyster neu dystysgrif sy'n berthnasol i’r byd gwaith
• Datblygu’r sgiliau i chwilio am waith ar ôl gadael
• Cychwyn gwaith cyflogedig

 Bydd staff JobSense yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth yn ystod y broses recriwtio, fel bod eu hanghenion yn cael eu hystyried mewn ffordd hygyrch a chynaliadwy wrth iddynt  ymuno a'u sefydliadau. Trwy wneud hyn, byddant yn cael gwared â’r rhwystrau y gall pobl sydd â cholled synhwyrau eu hwynebu yn y gweithle.


Y partneriaid fydd yn cyflawni’r gwaith hwn ledled ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd fydd;
ELITE Supported Employment Agency, COS (Centre of Sign, Sight and Sound), Merthyr Tydfil Institute for the Blind & Agoriad Cyf.

Mae JobSense yn cynnal gweminar trwy ZOOM ar Dachwedd 10, i drafod sut y gallant helpu unigolion a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl â cholled synhwyrau. Mae'r weminar yn  rhad ac am ddim, Gallwch chi fynychu'r weminar trwy'r ddolen ganlynol.


Os ydych chi'n berson sydd a nam golwg neu nam ar y clyw ac yn chwilio am waith, neu'n gyflogwr sy'n chwilio am gyngor, defnyddiwch y ffurflen gyswllt ryngweithiol yma, a bydd ein tîm yn cysylltu i drafod sut y gallwn eich cefnogi chi.