Agoriad
Sefydlwyd Agoriad Cyf yn1992 gyda’r amcan o ddatblygu cyfleoedd i bobl anabl a than anfantais gael swyddi. Ers hynny, mae llawer o’n cleientiaid wedi cael budd o’u hymwneud ag Agoriad, a bellach yn gyfranwyr ffyddlon ac effeithiol i fusnes eu cyflogwyr.Mae Agoriad yn darparu gwasanaeth ar gyfer Gogledda Chanolbarth Cymru, ac ers 1992 mae wedi ehangu ei faes gweithredu ym Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam. Mae’r swyddfa ganolog ym Mangor, ac mae swyddfeydd rhanbarthol ym Mhwllheli a Dolgellau.
Rydyn ni’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau a hyfforddiant ar gyfer gwaith. Mae’n timau’n chwilio am y cyfleoedd gorau, ac yna’n cynnig yr hyfforddiant mwyaf addas i gydweddu, yn monitro’n ofalus yn dilyn lleoliad, gan weithio gyda’n cyfeillion ym myd busnes er mwyn sicrhau fod ein cleientiaid yn trosi’n ddidramgwydd i fyd gwaith. Rydyn ni hefyd yn ymdrechu i hybu’r ddealltwriaeth o’r cyfraniad gwirioneddol i fusnes a’r gymuned sy’n cael ei wneud gan bobl dan anfantais o fewn eu swyddi.
Mae Agoriad yn cael ei gyfarwyddo gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr sy’n disgwyl iddo ddarparu ei wasanaethau mewn dull cyfeillgar, heb ymyrryd yn ormodol. Gall pawb ohonom wneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd ein cleientiaid, ac i ganfyddiad darpar gyflogwyr. Bu Agoriad yn gwneud y gwahaniaeth o’r math yma yng Ngogledd Cymru ers 1992.
Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol am y dewisiadau sydd ar gael drwy Agoriad, byddem yn falch o glywed oddi wrthych - cysylltwch â ni.





[en]